Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
08.30 - 10.56 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC Byron Davies AC (yn lle William Graham AC) Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Russell Bennett, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (Cangen De Cymru) Rhodri-Gwynn Jones, Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru David Meller, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (Cangen Gogledd Cymru) Bob Lark, Prifysgol Caerdydd Kris Moodley, Prifysgol Leeds Nigel Smith, Prifysgol Leeds |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Michael Kay (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Andrew Minnis (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Jeremy Morgan (Swyddfa Archwilio Cymru) Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Mike Usher (Swyddfa Archwilio Cymru) |
|||
|
|
||||
1 Rheoli Ymadawiadau Cynnar
1.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Reoli Ymadawiadau Cynnar a llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhoi’r wybodaeth bellach y gofynnodd y Pwyllgor amdani.
2 Blaenraglen waith
2.1 Cytunodd yr Aelodau ar y rhaglen waith ar gyfer tymor yr haf.
2.2 Absenolodd Jocelyn Davies ei hun o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar fater yn ymwneud â chyfrifoldeb blaenorol a oedd ganddi fel Gweinidog.
3 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan William Graham.
3.2 Croesawodd y Cadeirydd Byron Davies a oedd yn dirprwyo ar ran William Graham.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Nodwyd y papurau, gydag un newid bach.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan roi cyfle i’r Pwyllgor wneud gwaith craffu pellach ar y gronfa Buddsoddi i Arbed.
5 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 2
5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan academyddion o Brifysgol Leeds a Phrifysgol Caerdydd yn ei ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd.
6 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 3
6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru a Changhennau Gogledd a De Cymru Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant yn ei ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd.
6.2 Cytunodd Russell Bennett o Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant, Cangen De Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am fuddsoddi preifat.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8 Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod y dystiolaeth:
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.